Big Lottery Fund - NOPES
Hafan Gymraeg
Mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi clustnodi £750.75 miliwn ar gyfer menter Cyfleoedd Newydd ar gyfer AG a Chwaraeon (NOPES) ledled gwledydd Prydain.
Disgwylir i brosiectau a noddir gan fenter NOPES gyflawni chwe chanlyniad allweddol, sef:
- Gwella addysg gorfforol a chwaraeon mewn ysgolion
- Codi safonau ar draws yr ysgol gyfan drwy Addysg Gorfforol, chwaraeon a ffurfiau eraill ar weithgaredd strwythuredig
- Cynnig gwell cyfleoedd i gynyddu lefelau gweithgaredd corfforol ymysg y boblogaeth oed ysgol ac, yn fwy cyffredinol, mewn cymunedau lleol
- Gwella cydweithio, cydweithrediad a phartneriaeth rhwng ysgolion a'u cymunedau
- Hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol drwy sicrhau fod pob grwp o fewn cymdeithas yn cael cyfle i fwynhau cyfleusterau chwaraeon a gweithgareddau awyr agored
- Torri tir newydd a sicrhau'r arferion gorau wrth ddylunio a rheoli cyfleusterau
Am fwy o wybodaeth am y canlyniadau hyn ac am y rhaglen yn gyffredinol gweler dogfen weledigaeth y Gronfa Loteri Fawr 'Building for Tomorrow'. Gallwch ei llwytho i lawr o: www.nof.org.uk/
Mae Partneriaeth Loughborough, dan arweiniad y Sefydliad Chwaraeon Ieuenctid, wedi'u comisiynu gan y Gronfa i werthuso rhaglen y fenter NOPES.
Arolygon
Prif arf y tîm gwerthuso ar gyfer casglu data o bob rhan o Brydain yw'r Arolygon Sylfaenol a Blynyddol.
Yr Arolwg Sylfaenol
Cynlluniwyd yr Arolwg Sylfaenol i fod mor syml ag sy'n bosibl ac i gasglu data defnyddiol tra'n cofio'r pwysau amser sydd ar y bobl sy'n llenwi'r ffurflenni. Y bwriad yw y dylid cwblhau'r Arolwg Sylfaenol cyn agor prosiect dan nawdd NOPES. Er mwyn caniatáu ar gyfer hyn, caiff yr Arolwg Sylfaenol ei ddosbarthu'n uniongyrchol i brosiectau ychydig cyn dyddiad agor y prosiect.
Ceir dau wahanol Arolwg Sylfaenol ar gyfer prosiectau cyfleusterau ledled Prydain;
- Arolwg Sylfaenol a fwriedir ar gyfer prosiectau gyda chyllid NOPES sy'n llai na £125,000 a/neu rai sydd heb eu seilio ar safle ysgol unigol (e.e. prosiectau marcio iardiau chwarae a rennir, a chanolfannau addysg awyr agored)
- Arolwg Sylfaenol (Estynedig) a fwriedir ar gyfer y prosiectau hynny sydd wedi'u seilio ar safle ysgol unigol gyda chyllid NOPES sy'n fwy na £125,000 (neu £75,000 yng Ngogledd Iwerddon)
Cliciwch ar y dolenni uchod i lwytho'r arolygon hyn i lawr.
I gael y canllawiau i'ch helpu chi i lenwi'r Arolwg Sylfaenol, cliciwch ar y ddolen berthnasol isod ;
Canllawiau'r Arolwg Sylfaenol (Estynedig)
Mae'r Arolwg Sylfaenol yn nodi pobl sy'n byw mewn ardal ddifreintiedig iawn . Mae hyn yn cyfeirio at bobl sy'n byw mewn etholaeth sydd ymhlith yr 20% mwyaf difreintiedig yn y wlad. Gallwch weld rhestr o'r 20% etholaeth fwyaf ddifreintiedig yng Nghymru drwy glicio yma.
Yr Arolwg Blynyddol
Bydd yr Arolwg Blynyddol yn cynnwys llawer o'r un cwestiynau â'r Arolwg Sylfaenol, a bydd hyn yn caniatáu dadansoddi newidiadau, o ran cyfranogiad yn bennaf, dros gyfnod o amser. Caiff yr Arolwg Blynyddol ei anfon allan i brosiectau flwyddyn union wedi'r dyddiad agor a chaiff Arolwg Blynyddol arall ei anfon wedyn dair blynedd union wedi'r dyddiad agor.
Astudiaethau Achosion
Mae'r tîm gwerthuso'n cynnal 11 astudiaeth achos, dwy ohonyn nhw yng Nghymru.
Mae'r astudiaethau achosion craidd yn cynnig cyfle i gasglu data trylwyr cynhwysfawr dros nifer o flynyddoedd, a fydd yn galluogi'r tîm i ymchwilio i effaith NOPES mewn ffordd sy'n ateb amcanion y portffolio a phrosiectau unigol.
Hunan-Werthuso
Gallai cynllun NOPES gael effaith aruthrol. Wrth werthuso'r rhaglen, all Partneriaeth Loughborough ddim gobeithio cael darlun cyflawn o brofiadau pob prosiect. Felly, anogir rheolwyr prosiectau a phawb arall sy'n ymwneud â mentrau a gefnogir gan y Gronfa i werthuso'u hunain a chofnodi hynt eu prosiect unigol nhw tuag at gyflawni chwe chanlyniad allweddol y rhaglen a'u nod a'u hamcanion nhw'u hunain.
I roi cyngor i bob prosiect ynghylch gwerthuso a chynnal eich gweithgareddau hunan-werthuso eich hunain, mae Partneriaeth Loughborough wedi cynhyrchu Llawlyfr Hunan-Werthuso.
Anelir y Llawlyfr Hunan-Werthuso at brosiectau ac fe'i dosberthir i brosiectau gyda'r Arolwg Sylfaenol. Mae'r llawlyfr ar gael yn electronig hefyd drwy glicio ar y ddolen briodol isod;
Llawlyfr Hunan-Werthuso i brosiectau sy'n cwblhau'r Arolwg Sylfaenol
Llawlyfr Hunan-Werthuso i brosiectau sy'n cwblhau'r Arolwg Sylfaenol (Estynedig)
Hynt y Broses Werthuso
Newyddlenni
Bydd y tîm gwerthuso'n cynhyrchu newyddlen chwarterol i roi'r newyddion diweddaraf am yr hyn y mae'r tîm gwerthuso wedi'i gyflawni, rhoi gwybodaeth am brosesau gwerthuso sydd ar y gweill, rhannu canlyniadau prosesau gwerthuso a rhannu enghreifftiau o ymarfer effeithiol gan brosiectau sy'n bodoli eisoes.
Gellir llwytho newyddlenni i lawr drwy glicio ar y dolenni isod.
Cysylltu â ni
Manylion cysylltu
Arweinydd Partneriaeth Loughborough yw:
Dr Mary Nevill, Cyfarwyddwr y Sefydliad Chwaraeon Ieuenctid, M.E.Nevill@lboro.ac.uk 01509 226315
Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch gwerthuso'r cynllun NOPES yn allanol at:
Dr Carolynne Mason, Sefydliad Chwaraeon Ieuenctid, C.L.J.Mason@lboro.ac.uk 01509 226378
Llinell Gymorth Hunan-werthuso.
01509 226378
01509 226379
Dylid anfon pob gohebiaeth i'r:
Institute of Youth Sport
School of Sport and Exercise Sciences
Sir John Beckwith Centre for Sport
Loughborough University
Leicestershire
LE11 3TU
Os oes gennych chi unrhyw sylwadau am Bartneriaeth Loughborough yr hoffech eu cyflwyno i berson cyswllt y Gronfa, cyfeiriwch nhw at:
Ambreen Shah, Cronfa Loteri Fawr, Ambreen.Shah@biglotteryfund.org.uk

